为什么头晕晕乎乎的| 手指尖发麻是什么原因| 颈椎病头晕吃什么药| 回眸一笑百媚生什么意思| 京东快递是什么快递| 灵犀是什么意思| 化疗为什么掉头发| 阴虚吃什么好| 茯苓的作用是什么| 欺世盗名是什么生肖| 女人吃什么越来越年轻| 小孩子上火吃什么能降火| 15度穿什么| 肾虚去医院挂什么科| 什么是宫颈纳囊| 桃花开在什么季节| cf是什么| 头疼想吐是什么原因引起的| 息肉和囊肿有什么区别| 种田文什么意思| 肚脐有分泌物还发臭是什么原因| 阴道炎用什么药最好| 一个牙一个合是什么字| 河豚为什么有毒| 办银行卡需要什么条件| 麦粒肿吃什么消炎药| 导是什么意思| 观音菩萨原名叫什么名| 眩晕是什么原因| 怀孕的脉搏和正常脉搏有什么区别| 阴道有味道是什么原因| 棉毛布是什么面料| 西瓜禁忌和什么一起吃| 生不逢时什么意思| 检查肝脏挂什么科| 明哲保身是什么生肖| 隐翅虫皮炎用什么药| 谈什么色变| 下巴有痣代表什么| 为什么月经迟迟不来又没怀孕| 类风湿是什么病| 护理学是干什么的| 衣原体阳性是什么病| 拉肚子拉稀水吃什么药管用| 心电图逆钟向转位什么意思| dx什么意思| 胃炎吃什么食物好养胃| 什么是香云纱| 阴道炎是什么| 婆婆过生日送什么礼物好| 降血糖吃什么药| 画龙点睛什么意思| 油菜花像什么| 勾芡用什么粉最好| 世界上牙齿最多的动物是什么| 吃什么东西补充胶原蛋白| 叶凡为什么要找荒天帝| 什么啤酒度数高| 支气管炎吃什么药效果最好| 桃李满天下是什么生肖| 云为什么不会掉下来| 湿气重去医院挂什么科| 转基因是什么意思| 白带发黄有异味是什么原因| cap是什么| 玮五行属什么| 大便绿色是什么原因| 前列腺在人体什么位置| nh3是什么| 曹植字什么| 卡替治疗是什么意思| 红斑狼疮是什么引起的| 没有胎心胎芽是什么原因造成的| 后脑勺疼吃什么药| 肝脏是什么器官| 多愁善感什么意思| 中指尖麻木是什么原因| 性生活是什么意思| 腰无力是什么原因| 早上起来眼皮肿是什么原因| 吃什么提神| 会来事是什么意思| 什么样的智齿不需要拔| 蛇为什么会咬人| 什么的鸽子| 最好的减肥方法是什么| 拉稀拉水吃什么药管用| 血红蛋白什么意思| 寒包火感冒吃什么药| 蛤蚧是什么| le是什么| 痔疮开刀后吃什么好| 首套房有什么优惠政策| winbond是什么品牌| 豆浆机什么牌子好| 动脉圆锥是什么意思| 累的什么| 脑缺血吃什么药| 什么花晚上开| 急性肠胃炎是什么引起的| 黄瓜籽粉有什么功效| 老人经常便秘有什么好办法| 附件炎是什么引起的| 从来就没有什么救世主| 云南古代叫什么| 你的美丽让你带走是什么歌| 怕金森是什么症状| 吃什么会变丑脑筋急转弯| 下海的意思是什么| pr是什么意思医学| 鄂尔多斯为什么叫鬼城| 仓鼠喝什么水| 菊花有什么作用| 孕妇拉肚子可以吃什么药| 舌头上有黑苔是什么原因| 1978年什么命| 无缘无故吐血是什么原因| 重组人干扰素a2b主要是治疗什么病| 什么水果对眼睛好| 吉士粉是什么粉| 油价什么时候上涨| 祛火喝什么茶| 乳酸菌是什么菌| 肚脐下方是什么部位| 补钙什么季节补最好| 石斛起什么作用| 为什么嘴巴会臭| 低烧是什么症状| 肱骨外上髁炎用什么药| 视黄醇结合蛋白是什么| 麻风病是什么症状图片| 如是什么意思| 中药龙骨是什么东西| 血糖高吃什么最好| 为什么会停电| 周长是什么意思| 卵巢囊性包块是什么意思| hcy是什么意思| 人为什么要生孩子| 什么然起什么| 洋葱不能和什么一起吃| 尿道疼是什么原因| 为什么老是恶心想吐| 心律不齐什么症状| 暗里着迷什么意思| roger是什么意思| 什么的走路| 着相什么意思| 为什么头顶会痛| 死水是什么| 眼睛有眼屎是什么原因引起的| 指南针什么时候发明的| 水瓶座是什么性格| 3月是什么季节| 81什么意思| 结余是什么意思| a醇对皮肤有什么作用| 阴唇为什么一个大一个小| 丧是什么意思| 7月八号是什么星座| 再接再厉什么意思| 想吐是什么原因| 狗有眼屎是什么原因| 晚上喝红酒配什么小吃| 身在其位必谋其职是什么意思| 喝什么茶最减肥| 状物是什么意思| min代表什么意思| 口加至念什么| 二尖瓣钙化是什么意思| 甲级战犯是什么意思| 牛油果不能和什么一起吃| 男人吃什么容易生儿子| 睡觉手发麻是什么原因| 什么洗衣液是中性的| 济南为什么叫泉城| 气管炎咳嗽吃什么药最有效| 烟酸是什么| 脖子长疣是什么原因| 菠菜不能与什么一起吃| 支那是什么意思| 好不热闹是什么意思| 胆囊壁固醇沉积是什么意思| 脑供血不足做什么检查| 肚子有腹水是什么症状| 糖尿病吃什么好| 什么呀| 什么人不适合做纹绣师| 乳腺结节吃什么| 什么玉最值钱| 儿童补锌吃什么| 大腿出汗是什么原因| 彩金是什么材质| 心脏怕什么| 怀疑甲亢需要做什么检查| 耻骨疼是什么原因| 血钙是什么意思| 九月有什么节日| 张嘴睡觉有什么危害| 大便红褐色是什么原因| kj是什么意思| 莯字五行属什么| 版图是什么意思| 明天代表什么生肖| 小月子吃什么水果| 三维是什么意思| 土霉素主要是治疗什么病| 嗜酸性粒细胞偏高是什么原因| 为什么会乳糖不耐受| 前庭神经炎挂什么科| 小孩吃鼻屎是什么原因| 鸟语花香是什么生肖| 梅毒挂什么科| 手足口是什么病毒| 炎细胞浸润是什么意思| 三个金念什么| 单车是什么意思| 不完全性右束支传导阻滞是什么意思| 飞龙是什么| gst是什么意思| 怀孕上火吃什么降火| 鼻烟壶是干什么用的| 什么叫强直性脊柱炎| 逆爱是什么意思| 野字五行属什么| 兰州有什么特产| 酸是什么| 继发性高血压是什么意思| 冷暖自知的前一句是什么| 甜蜜素是什么| 经常口臭的人是什么原因引起的| 庚申五行属什么| 红枸杞有什么功效| 夜尿多什么原因| 减肥可以吃什么菜| 吃葛根粉有什么好处| 吃什么养心| 美甲什么颜色显手白| 一闪一闪的星星像什么| 得瑟是什么意思| 非转基因是什么意思| 冷面是什么面| 小狗什么时候可以洗澡| 每次睡觉都做梦为什么| 一个九一个鸟念什么| 菲林是什么| 月经量少吃什么排淤血| 宝宝风寒感冒吃什么药最好| 左室舒张功能减低是什么意思| 老鼠属于什么类动物| 脖子后面有痣代表什么| 经常手淫会有什么危害| 一个火一个同念什么| 总梦到一个人说明什么| 哺乳期可以吃什么感冒药| 为什么小孩子有白头发| 民政局是干什么的| 八方来财是什么意思| 玉米糁是什么| 肌肉紧张是什么症状| 恪尽职守什么意思| 热疹用什么药| 血红蛋白低吃什么可以补起来| 点了斑不能吃什么| 百度Neidio i'r cynnwys

·自体脂肪隆胸目前致癌!?专家答疑:此说法不科学

Oddi ar Wicipedia
yr Ymerodraeth Rufeinig
Mathcyfnod o hanes, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Enwyd ar ?lRhufain, Talaith Imperia Edit this on Wikidata
PrifddinasRhufain, Caergystennin, Ravenna, Milan, Rhufain Edit this on Wikidata
Poblogaeth87,500,000 ±33000000 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Lladin, Hen Roeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Arwynebedd5,957,000 km2 Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaParthia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.9°N 12.5°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Cyfnod daearegoly cynfyd clasurol Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenate of the Roman Empire Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
ymerawdwr Rhufain Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganAugustus Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwadardal o fewn Rhufain hynafol, eglwys wladwriaethol yr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
ArianRoman currency Edit this on Wikidata
Ymestyniad yr Ymerodraeth: 133 CC (coch), 44 CC (oren), 14 OC (melyn), a 117 OC (gwyrdd)
百度 不过这一次,国足闹了心,国乒同样也让外界一惊。

Yr Ymerodraeth Rufeinig (Lladin: Imperium Romanum) yw'r term a ddefnyddir am y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd y Weriniaeth Rufeinig ac a barhaodd hyd y 5g OC yn y gorllewin, ac fel yr Ymerodraeth Fysantaidd hyd 1453 yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo Senedd Rhufain, llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerawdwyr, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio I?l Cesar fel dictator am oes yn 44 CC, buddugoliaeth etifedd Cesar, Octavianus ym Mrwydr Actium yn 31 CC, a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus (16 Ionawr 27 CC).

Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o Sbaen yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn Carthago, a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad Trajan tua 177. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km2 (2,300,000 milltir sgwar) o dir.

Rhannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau'r ymerawdwr Diocletian. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn 476 pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, Romulus Augustus. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaern?aeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanwad sy'n parhau hyd heddiw.

O weriniaeth i ymerodraeth

[golygu | golygu cod]
I?l Cesar: cerflun Rhufeinig.

Roedd i Rufain Hynafol hanes hir cyn cyfnod yr ymerodraeth. Concrwyd llawer o'r tiriogaethau aeth yn rhan o'r Ymerodraeth yn ystod y Weriniaeth Rufeinig, er enghraifft concrwyd Sbaen yn ystod y rhyfeloedd rhwng Rhufain a Carthago, a choncrwyd Gal gan I?l Cesar.

Fideo byr am ffyrdd Rhufeinig

Yn 60 CC daeth Cesar i gytundeb a Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus i rannu grym, a phriododd Pompeius ferch Cesar, Julia. Galwyd y cynghrair yma yn y triumvirate. Yn 54 CC, lladdwyd Crassus gan y Parthiaid, ac yn raddol dirywiodd y berthynas rhwng Pompeius a Cesar. Yn 49 CC, croesodd Cesar a'i fyddin Afon Rubicon, y ffin rhwng ei dalaith ei hun a'r Eidal, gan ddechrau rhyfel cartref yn Rhufain. Enciliodd Pompeius i Brundisium cyn croesi i Wlad Roeg, a'r rhan fwyaf o Senedd Rhufain gydag ef. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ?l. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym Mrwydr Pharsalus yn 48 CC, a ffodd Pompeius i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin Ptolemi XIII Theos Philopator. Gadawodd hyn Cesar yn feistr ar Rufain.

Roedd y garfan oedd o blaid Senedd gref yn anfodlon bod gan I?l Cesar gymaint o b?er. Ym mis Mawrth 44 CC llofruddiwyd ef gan gynllwynwyr yn cynnwys ei ffrind Marcus Junius Brutus a Gaius Cassius Longinus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad Cassius a Brutus, a chefnogwyr Cesar dan arweiniad Marcus Antonius ac Octavianus. Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym Mrwydr Actium, daeth Octavianus yn rheolwr Rhufain. Newidiodd ei enw i Augustus, ac ystyrir ef fel yr Ymerawdwr (Lladin: Imperator) cyntaf (27 CC).

Yr ymerawdwyr cynnar

[golygu | golygu cod]
Yr ymerawdwr cyntaf: Augustus tua 30 CC.

Dangosodd Augustus allu gwleidyddol anghyffredin i gadarnhau ei safle wrth gadw llawer o nodweddion y cyfnod gweriniaethol, megis y Senedd. I bob golwg, y Senedd oedd yn rheoli Rhufain, ond mewn gwirionedd gan Augustus yr oedd y grym. Cymerodd rai blynyddoedd i ddatblygu fframwaith ar gyfer rheoli'r ymerodraeth. Ni dderbyniodd swydd dictator fel I?l Cesar pan gynigiwyd hi iddo gan bobl Rhufain; y teitl a ddefnyddiai oedd Princeps, yn yr ystyr "dinesydd cyntaf" yn hytrach na "tywysog". Rhoddodd y Senedd hawliau tribwn y bobl a sensor iddo am oes, a bu'n gonswl hyd 23 CC. Yn rhannol, deilliai ei rym o'r ffaith mai ef oedd a rheolaeth dros y fyddin, ond deilliai hefyd o'i auctoritas (awdurdod) ef ei hun.

Bu llawer o ymladd yn Germania yn ystod ei deyrnasiad ef. Enillwyd nifer o fuddugoliaethau dros yr Almaenwyr, ond yn y flwyddyn 9 OC gorchfygwyd y cadfridog Publius Quinctilius Varus ym Mrwydr Fforest Teutoburg gan luoedd Arminius, a dinistriwyd tair lleng Rufeinig. Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers Brwydr Cannae yn erbyn Hannibal. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd Afon Rhein.

Er gwaethaf yr ymladd ar ffiniau'r ymerodraeth, dechreuodd teyrnasiad Augustus gyfnod o heddwch oddi mewn i'r ymerodraeth ei hun, y Pax Romana ("Heddwch Rhufeinig"). Heblaw am flwyddyn o ryfel cartref yn 69, parhaodd hwn am dros ddwy ganrif. Roedd hefyd yn gyfnod nodedig i lenyddiaeth, gyda llenorion fel Fyrsil ac Ofydd yn ysgrifennu. Bu Augustus farw ar 19 Awst, 14 OC, a dilynwyd ef gan Tiberius, mab ei wraig Livia o briodas flaenorol.

Tiberius Caesar Augustus, ail ymerawdwr Rhufain

Bu blynyddoedd cyntaf teyrnasiad Tiberius yn llwyddiannus; sefydlogwyd y ffin yn Germania a dangosodd ei hun yn weinyddwr galluog. Fodd bynnag, gwaethygodd y berthynas rhyngddo ef ac aelodau'r Senedd. Yn y flwyddyn 27 OC, aeth yr ymerawdwr i fyw i ynys Capri, ar yr arfordir gerllaw Napoli. Daeth pennaeth Gard y Praetoriwm, Lucius Aelius Seianus, yn ddylanwadol iawn. Ceisiodd Seianus droi Tiberius yn erbyn ei deulu, iddo ef ei hun gael ei enwi fel ei etifedd, ond dienyddiwyd ef yn 31. Gwnaeth brad ei gyfaill Seianus i'r ymerawdwr, oedd eisoes yn ddrwgdybus o'r Senedd, yn fwy drwgdybus byth, a dienyddiwyd nifer o Seneddwyr a gw?r amlwg eraill yn ei flynyddoedd olaf.

Bu farw yn Misenum yn 77 oed yn 37, a dilynwyd ef gan Caligula, mab ei frawd Germanicus.

Mwynhaodd Caligula boblogrwydd eithriadol ar ddechrau ei deyrnasiad am ei fod yn ifanc a brwdfrydig, ond yn nes ymlaen dechreuodd ymddwyn yn orthrymol ac afresymol ac fe'i cyhuddid o fod yn wallgof gan ei gyfoeswyr. Cafodd ei lofruddio yn 41, a dilynwyd ef gan Claudius.

Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia ac Iudaea yn ogystal a choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda phedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth. Bu farw Claudius yn 54, a dilynwyd ef gan Nero.

Fel Caligula, roedd Nero yn eithriadol o boblogaidd ar ddechrau ei deyrnasiad, ond yn ddiweddarach collodd ei boblogrwydd, yn rhannol oherwydd ei ymddygiad anghonfensiynol. Dienyddiwyd llawer o seneddwyr ac eraill a ystyriai yn fygythiad iddo. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a lladdodd ei hun yn 68 pan welodd nad oedd cefnogaeth iddo. Apwyntiodd y Senedd Galba, i gymryd ei le; yr ymerawdwr cyntaf nad oedd o deulu Augustus.

Roedd Galba yn 71 oed ac roedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Roedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Roedd Marcus Salvius Otho wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi Calpurnius Piso yn olynydd. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymerawdwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef ar yr orsedd gan Otho. Dilynwyd hyn gan gyfres o ryfeloedd a elwir yn Flwyddyn y Pedwar Ymerawdwr yn 69. Roedd y llengoedd yn Germania eisoes wedi cyhoeddi Vitellius yn ymerawdwr, a chychwynnodd fyddin gref o'r llengoedd hyn am ddinas Rufain ei hun. Bu brwydr rhyngddynt hwy a'r llengoedd oedd yn ffyddlon i Otho yn Bedriacum, gyda byddin Vitellius yn fuddugol. Lladdodd Otho ei hun, a daeth Vitellius yn ymerawdwr.

Adeiladwyd y Colisewm gan Vespasian, a'i agor yn nheyrnasiad ei fab, Titus

Yn Judea, roedd byddin Rufeinig gref dan y cadfridog Vespasian yn ymladd yn erbyn gwrthryfel yr Iddewon. Trafododd Vespasian y mater gyda rhaglaw Syria, Gaius Licinius Mucianus, a chyhoeddodd llengoedd Judea a Syria Vespasian fel ymerawdwr. Cefnogwyd Vespasian hefyd gan y llengoedd ar Afon Donaw dan Marcus Antonius Primus, a'r llengoedd hyn oedd y cyntaf i gyrraedd yr Eidal. Yn ail frwydr Bedriacum gorchfygodd byddin Primus lengoedd Vitellius, cyn mynd ymlaen i Rufain a lladd Vitellius ei hun.

Yn wahanol i'r tri ymerawdwr o'i flaen, llwyddodd Vespasian i'w sefydlu ei hun yn gadarn ar yr orsedd a chychwyn y llinach Fflafaidd. Teyrnasodd am ddeng mlynedd, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf Titus. Vespasian oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Colisewm yn Rhufain.

Enillodd Titus boblogrwydd mawr, ond dim ond dwy flynedd y bu ar yr orsedd. Pan fu farw Titus, ar 13 Medi 81, daeth ei frawd iau, Domitian yn ymerawdwr. Yn ystod ei deyrnasiad bu brwydro ym Mhrydain, Germania ac yn arbennig yn erbyn Decebalus, brenin Dacia o gwmpas Afon Donaw. Ni fu'n llwyddiannus, ac yn y diwedd bu'n rhaid iddo dalu swm mawr o arian i'r Daciaid i sicrhau heddwch. Bu hefyd yn brwydro yn erbyn y Sarmatiaid. Llofruddiwyd ef ar 18 Medi 96, yn dilyn cynllwyn gan ei wraig Domicia a phennaeth Gard y Praetoriwm. Penododd y senedd Nerva fel ei olynydd.

Oes Aur yr Ymerodraeth

[golygu | golygu cod]
Cerflun o Trajan yn Xanten (Yr Almaen)

O 98 hyd 180 OC, cafodd yr ymerodraeth Oes Aur yn ystod teyrnasiad y "Pum Ymerawdwr Da", sef Nerva, Trajan, Hadrian, Antoninus Pius a Marcus Aurelius. Roedd y pedwar cyntaf o'r rhain yn ddi-blant, ac felly dewisasant y g?r yr oeddynt yn ei ystyried fel y mwyaf addas fel olynydd. Sicrhaodd hyn fod yr Ymerodraeth yn cael ei harwain gan gyfres o w?r galluog ac ymroddgar. Yn anffodus yr oedd gan yr olaf ohonynt, Marcus Aurelius, fab, sef Commodus. Dilynodd ef ei dad fel ymerawdwr a bu'n llawer llai llwyddiannus.

Roedd Trajan yn filwr galluog, ac ar ?l dod yn ymerawdwr parhaodd i ymladd ar Afon Rhein ac Afon Donaw. Ni ddaeth i Rufain am y tro cyntaf fel ymerawdwr hyd y flwyddyn 99. Bu'n ymladd llawer yn erbyn y Daciaid, oedd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn Rwmania. Bu dau ryfel yn erbyn Decebalus, brenin Dacia, a gorchfygwyd ef gan Trajan, gan greu talaith Rufeinig newydd Dacia. Adeiladwyd Colofn Trajan yn Rhufain i goffáu ei fuddugoliaeth. Tua'r un pryd cr?wyd talaith Arabia Petraea.

Yn 113 dechreuodd rhyfel yn erbyn y Parthiaid. Cipiodd Ctesiphon, prifddinas Parthia, yn 115, ac ymgorfforwyd Armenia, Asyria a Mesopotamia yn yr ymerodraeth. Bu farw Trajan ar ei ffordd yn ?l o'r brwydro yma, yn Selinus, gerllaw'r M?r Du, ar yr 8 Awst 117. Yn ystod teyrnasiad Trajan y cyrhaeddodd yr ymerodraeth Rufeinig ei maint eithaf. Dewisodd Trajan Hadrian fel ei olynydd.

Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r ymerodraeth a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn Dacia. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel Mur Hadrian ym Mhrydain. Ef hefyd a adeiladodd y Pantheon yn Rhufain.

Yr ymerodraeth Rufeinig ar ei heithaf yn 117, ar ddiwedd teyrnasiad Trajan

Fel ymerawdwr, treuliodd Hadrian lawer o'i amser yn teithio o amgylch yr ymerodraeth, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladu mewn gwahanol rannau ohoni. Nid oedd ganddo blant, a dewisodd Antoninus Pius fel ei olynydd. Dywedir fod Antoninus Pius yn ymerawdwr poblogaidd iawn oherwydd ei allu a'i hynawsedd. Amddiffynnodd y Cristionogion yn yr ymerodraeth ac yr oedd yn nodedig o drugarog wrth ddelio a chynllwynion yn ei erbyn. Roedd yn gyfrifol am lawer o adeiladu, yn enwedig yn ninas Rhufain.

Bu raid i'w olynydd, Marcus Aurelius ryfela'n barhaus yn erbyn gwahanol bobloedd ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd yr Almaenwyr droeon ar Gal, ac adenillodd y Parthiaid eu nerth ac ymosod ar yr ymerodraeth. Oherwydd y problemau hyn dewisodd Lucius Verus fel cyd-ymerawdwr, hyd farwolaeth Verus yn 169. Credir mai yn ystod ei deyrnasiad ef y bu'r cysylltiad cyntaf rhwng yr ymerodraeth Rufeinig a Tsieina yn y flwyddyn 166.

Bu farw Marcus Aurelius ar 17 Mawrth 180 yn ninas Vindobona (Fienna heddiw) wrth ymgyrchu yn erbyn y Marcomanni. Daethpwyd a'i gorff yn ?l i Rufain i'w gladdu. Yn wahanol i'r pedwar ymerawdwr o'i flaen yr oedd ganddo fab i'w olynu. Gwnaeth ei fab Commodus yn gyd-ymerawdwr yn 177, a dilynodd ei dad yn 180. Yn anffodus ni fu Commodus yn ymerawdwr da, ac mae rhai haneswyr yn ystyried mai marwolaeth Marcus Aurelius yn 180 oedd diwedd y Pax Romana.

Argyfwng ac adferiad

[golygu | golygu cod]
Septimius Severus, amgueddfa'r Louvre

Rhoddodd Commodus rym i ffrindiau llwgr, a chynorthwyodd hwy i ddwyn arian oddi ar y wladwriaeth. Roedd yn arbennig o hoff o ymladdfeydd gladiator a byddai'n ymladd yn yr arena ei hun yn erbyn gwrthwynebwyr oedd wedi cael cyffuriau i'w hatal rhag ymladd yn iawn neu oedd heb eu harfogi'n llawn. Gwnaeth hyn ef yn amhoblogaidd iawn gyda haenau uwch cymdeithas. Dywedir iddo orchymyn lladd y cyfan o boblogaeth un dref oherwydd ei fod yn credu fod un person wedi edrych yn gas arno, a chyhoeddodd ei hun yn dduw gyda'r enw Hercules Romanus.

Llofruddiwyd Commodus yn 192, a dilynwyd ef gan Pertinax. Byr fu ei deyrnasiad ef; y flwyddyn ddilynol, 193, llofruddiwyd yntau. Cyhoeddwyd y cadfridog Septimius Severus yn ymerawdwr gan ei lengoedd. Llwyddodd llengoedd Severus i feddiannu Rhufain heb wrthwynebiad. Yr un pryd yr oedd y llengoedd yn Syria wedi cyhoeddi Pescennius Niger yn ymerawdwr, a'r llengoedd ym Mhrydain wedi cyhoeddi Clodius Albinus fel ymerawdwr. Gwnaeth Severus gynghrair a Clodius Albinus i orchfygu Pescennius Niger, yna yn 197 cafodd wared ar Albinus hefyd a theyrnasu ar ei ben ei hun.

Roedd Severus yn filwr galluog, ac ymladdodd ryfel llwyddiannus yn erbyn y Parthiaid, gan ddychwelyd rhan ogleddol Mesopotamia i'r ymerodraeth. Nid oes ei berthynas a'r Senedd yn dda, a chafodd wared a dwsinau o seneddwyr gan eu cyhuddo o fod yn llwgr. Penodwyd seneddwyr eraill oedd yn gefnogol iddo ef. Roedd yn fwy poblogaidd ymysg y bobl gyffredin, oedd yn falch o gael sefydlogrwydd ar ?l helyntion teyrnasiad Commodus.

Ym mlynyddoedd olaf Septimius Severus bu raid iddo ymladd yn erbyn y barbariaid oedd yn bygwth ffiniau'r ymerodraeth. Roedd problemau arbennig ym Mhrydain, ac atgyweiriodd Severus Fur Hadrian. Bu farw yn Efrog ar 4 Chwefror 211. Olynwyd ef gan ei feibion Geta a Caracalla, ond llofruddiwyd Geta gan ei frawd yn fuan wedyn.

Aeth Caracalla i Germania, lle bu'n brwydro'n llwyddiannus yn erbyn rhai o'r llwythi Almaenaidd. Yn ddiweddarach bu'n ymladd yn y dwyrain, gan ryfela yn erbyn y Parthiaid gyda chryn lwyddiant. Er gwaethaf ei lwyddiant milwrol yr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn casáu Caracalla oherwydd ei greulondeb, a chododd cynllwyn ei erbyn, gyda phennaeth y Praetoriaid, Macrinus, yn ei arwain. Llofruddiwyd Caracalla pan oedd ar ei ffordd i ddinas Carrhae yn Mesopotamia. Daeth Macrinus yn ymerawdwr yn ei le am gyfnod byr, ac yna dilynwyd ef gan Heliogabalus.

Roedd Heliogabalus yn ddilynwr y duwiau Ffenicaidd El-Gabal a Baal, a daeth a seremon?au i'w hanrhydeddu i Rufain. Ceisiodd sefydlu El-Gabal fel prif dduw y pantheon Rhufeinig dan yr enw Sol invictus ("Yr haul anorchfygol"). Roedd syniadau yr ymerawdwr yn annerbyniol gan y mwyafrif o drigolion yr ymerodraeth a bu nifer o gynllwynion yn ei erbyn. Lladdwyd Heliogabalus a'i fam Julia Soaemias ar 11 Mawrth 222, a thaflwyd eu cyrff i Afon Tiber. Daeth ei nai Alexander Severus yn ymerawdwr.

Argyfwng y drydedd ganrif a diwygiadau Diocletian

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn marwolaeth yr ymerawdwr Alexander Severus yn 235 bu o leiaf 19 o ymerawdwyr (heb gynnwys cyd-ymerawdwyr) yn y 50 mlynedd hyd 284. Y cyfnod yma oedd Argyfwng y Drydedd Ganrif, gyda chyfres o ymerawdwyr milwrol, yn dechrau gyda Maximinus Thrax, oedd yn dibynnu ar gefnogaeth y llengoedd i'w cadw ar yr orsedd. Ni lwyddodd yr un o'r ymerawdwyr hyn i deyrnasu fwy nag 8 mlynedd, a llawer ohonynt ddim mwy nag ychydig fisoedd. Un o'r mwyaf llwyddiannus oedd Valerian I, a ddaeth yn ymerawdwr yn 253. Enwodd Valerian ei fab Galienus fel cyd-ymerawdwr. Ar ddechrau ei deyrnasiad yr oedd problemau yn Ewrop, yna bu trafferthion mwy yn y Dwyrain. Cipiodd y Persiaid Antiochia a meddiannu Armenia. Tra'r oedd Galienus yn delio ag Ewrop, teithiodd Valerian tua'r dwyrain. Tua 257 llwyddodd Valerian i gael Antiochia a thalaith Syria yn ?l, ond y flwyddyn wedyn ymosododd y Gothiaid ar Asia Leiaf. Tua diwedd 259 yr oedd yr ymerawdwr yn Edessa, ond effeithiwyd ar ei fyddin gan glefyd. Rhywsut, efallai trwy frad pennaeth Gard y Praetoriwm, Macrinus, cymerwyd Valerian yn garcharor gan y Persiaid. Credir iddo gael ei drin yn greulon ac yna ei ddienyddio. Wedi marwolaeth Valerian, meddiannwyd Syria a Cappadocia gan y Persiaid.

Daeth Aurelian yn ymerawdwr yn 270, gyda'r ymerodraeth yn wynebu bygythiadau yn y dwyrain a'r gorllewin. Bu'n ymladd yn erbyn yr Almaenwyr a'r Gothiaid, ac wedi ymosodiadau'r Almaenwyr ar yr Eidal penderfynodd Aurelian adeiladu mur o amgylch Rhufain, "Mur Aurelian", Dechreuodd y gwaith yn 271 a gorffennwyd ef yn nheyrnasiad Probus. Cyhoeddodd nifer o bersonau eu hunain yn ymerawdwyr, ond llwyddodd Aurelian i'w gorchfygu heb ormod o drafferth. Yn 272 gorchfygodd y Gothiaid ar ffin Afon Donaw, gan ladd eu brenin, Cannabaudes. Yna troes tua'r dwyrain, lle'r oedd Zenobia, brenhines Palmyra wedi adeiladu ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r Aifft hyd Asia Leiaf. Gorchfygodd Aurelian Zenobia mewn dwy frwydr cyn gwarchae ar Palmyra. Ceisiodd Zenobia ddianc i Persia ond cymerwyd hi'n garcharor gan y Rhufeiniaid. Yn awr troes Aurelian tua'r gorllewin, lle'r oedd Ymerodraeth y Galiaid wedi dod yn rhydd o reolaeth Rhufain. Ffoes Tetricus, ymerawdwr y Galiaid, at Aurelian i ofyn am nodded rhag yr ymladd parhaus yn ei diriogaethau. Wedi delio a gelynion allanol, rhoes Aurelian ei sylw i'r economi a gwnaeth ymdrech fawr i ddileu llygredd yn yr ymerodraeth. Roedd yn cynllunio ymgyrch i adennill Mesopotamia i'r ymerodraeth pan lofruddiwyd ef gan ei ysgrifennydd personol, Eros, efallai am ei fod yn ofni am ei safle yn wyneb ymgyrch Aurelian yn erbyn llygredd.

Daeth Diocletian yn ymerawdwr yn 284, a gwnaeth newidiadau mawr yn nhrefn rheoli'r ymerodraeth. Ceisiodd adfywio'r economi a rhannodd yr ymerodraeth yn 96 talaith oedd wedi eu rhannu'n 12 rhanbarth diocesis. Ceisiodd hefyd adfywio hen grefydd Rhufain, a bu llawer o erlid ar y Cristionogion yn ystod ei deyrnasiad.

Y newid pwysicaf a wnaed gan Diocletian oedd dechrau'r Tetrarchiaeth, oedd yn rhannu'r ymerodraeth yn bedwar. Yn rheoli'r rhannau hyn yr oedd dau "Augustus", sef Diocletian ei hun a Maximinus, a dau "Cesar", Galerius a Constantius Chlorus. Roedd Diocletian, fel Augustus y dwyrain, yn gyfrifol am Thracia, Asia a'r Aifft; Galerius yn gyfrifol am y Balcanau heblaw Thracia, Maximinus fel Augustus y gorllewin yn rheoli Italia, Hispania ac Affrica, a'r Cesar Constantius Chlorus yn gyfrifol am Gal a Phrydain. Roedd pob Augustus i fod i ymddeol ar ?l 20 mlynedd, gyda'r ddau Gesar yn dod yn Augustus yn eu lle. Ar 1 Mai 305 ymddeolodd Dioclecian a Maximianus yn ?l y cynllun; y tro cyntaf i ymerawdwr Rhufeinig ymddeol yn wirfoddol.

Cristioneiddio'r ymerodraeth

[golygu | golygu cod]
Cystennin Fawr

Ar farwolaeth Constantius, yn Efrog ar 25 Gorffennaf 306, cyhoeddodd ei lengoedd ei fab Cystennin yn "Augustus".

Yn ystod y deunaw mlynedd nesaf bu Cystennin yn brwydro, yn gyntaf i ddiogelu ei safle fel cyd-ymerawdwr ac yn nes ymlaen i uno’r ymerodraeth. Ym Mrwydr Pont Milvius (312) enillodd fuddugoliaeth derfynol yn y gorllewin, ac ym Mrwydr Adrianople (323) gorchfygodd ymerawdwr y dwyrain, Licinius, a dod yn unig ymerawdwr (Totius orbis imperator).

Dywedir i Cystennin gael gweledigaeth cyn brwydr Pont Milvius. Gwelodd groes o flaen yr haul, yn darogan ei fuddugoliaeth. Wedi’r frwydr cymerodd arwydd Cristnogol, y ‘’Crismon’’, fel baner. Credir i’w fam, Helena, oedd o deulu Cristionogol, gael dylanwad mawr arno. Yn 325 bu Cystennin yn gyfrifol am alw Cyngor Nicea a wnaeth y grefydd Gristionogol yn gyfreithlon yn yr ymerodraeth am y tro cyntaf. Er hynny ni chafodd ei fedyddio yn Gristion ei hun nes oedd ar ei wely angau. Ail-sefydlodd Cystennin ddinas Byzantium fel Caergystennin (Constantini-polis), Istanbul heddiw.

Ceisiodd yr ymerawdwr Julian, a gyhoeddwyd yn "Augustus" gan ei filwyr yn 360, wrthwynebu y symudiad tuag at Gristionogaeth. Ail-agorodd demlau duwiau traddodiadol Rhufain. Ceisiodd wanhau'r Cristionogion mewn gwahanol ffyrdd. Yn 362 pasiwyd deddf oedd yn gwahardd Cristionogion rhag dysgu gramadeg a rhethreg, ac alltudiwyd rhai esgobion megis Athanasius.

Yn 363 cychwynnodd Julian tua'r dwyrain gyda byddin o 65,000 i ddechrau'r ymgyrch yn erbyn y Persiaid oedd wedi ei chynllunio gan Constantius. Enillodd Julian fuddugoliaeth dros y Persiaid a chyrraedd at eu prifddinas Ctesiphon, ond mewn ysgarmes ar 26 Mehefin 363 anafwyd Julian gan waywffon, ac er gwaethaf ymdrechion ei feddyg Oribasius o Pergamon, bu farw o'r clwyf. Cyhoeddodd y fyddin swyddog ieuanc o Gristion, Jovian, yn ymerawdwr yn ei le, ac o hynny ymlaen Cristionogaeth oedd crefydd yr ymerodraeth.

Cwymp ymerodraeth y gorllewin

[golygu | golygu cod]
Romulus Augustus, yr ymerawdwr olaf yn y gorllewin

O 375 ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: Valens, Valentinian II a Gratianus. Pan laddwyd Valens ym Mrwydr Adrianople yn 378, penododd Gratianus Theodosius yn ei le fel cyd-augustus yn y dwyrain. Lladdwyd Gratianus mewn gwrthryfel yn 383, a chyhoeddodd Macsen Wledig (Magnus Maximus) ei hun yn gyd-ymerawdwr yn y gorllewin, gan feddiannu holl daleithiau'r gorllewin heblaw yr Eidal. Yn 387 ymosododd Macsen ar yr Eidal, ond gorchfygodd Theodosius ef a'i ladd. Bu farw Valentinian II yn 392, gan adael Theodosius yn unig ymerawdwr. Teyrnasodd Theodosius hyd 395; ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth Gristionogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.

Dilynwyd Theodosius gan ei ddau fab, Honorius yn y gorllewin ac Arcadius yn y dwyrain, ac ni chafodd y ddau ran eu had-uno eto. Erbyn hyn roedd y Fisigothiaid dan eu brenin Alaric I yn bygwth yr ymerodraeth. Yn 401 gwnaeth gytundeb ag Arcadius a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin, gan gipio dinasoedd Groegaidd megis Corinth a Sparta cyn cyrraedd Yr Eidal. Yno, gorchfygwyd ef gan y cadfridog Rhufeinig Stilicho ar 6 Ebrill 402 ym Mrwydr Pollentia. Wedi i Honorius lofruddio Stilicho yn 408, gallodd Alaric a'i fyddin ymosod ar yr Eidal eto a gosod gwarchae ar ddinas Rhufain. Ym mis Awst 410 cipiodd y ddinas a'i hanrheithio, gan ddwyn chwaer yr ymerawdwr, Gala Placidia, ymaith fel carcharor. Dyma'r tro cyntaf i'r ddinas gael ei chipio gan elyn ers 390 CC.

Dirywiodd sefyllfa ymerodraeth y gorllewin yn raddol yn ystod y 5g. Yn 455, llofruddiwyd dau ymerawdwr, a bu un arall farw mewn terfysg. Yn y cyfnod yma, cadfridogion megis Ricimer oedd a'r grym mewn gwirionedd, yn hytrach na'r ymerawdwr. Cafodd yr ymerawdwr olaf, Romulus Augustus, ei goroni yn Hydref 475, yn llanc ifanc tua 12 oed. Roedd ei dad, Orestes, yn bennaeth y fyddin Rufeinig (Magister militum), ac ef a osododd Romulus ar yr orsedd wedi iddo ddiorseddu Julius Nepos. Mae'n debyg mai ei dad oedd yn rheoli yn ei enw. Ddeg mis yn ddiweddarach, diorseddwyd Romulus Augustus gan Odoacer ar 4 Medi, 476. Ni laddwyd Romulus; yn hytrach fe'i gyrrwyd i fyw yn y Castellum Lucullanum yn Campania.

Yn eironig, roedd yr ymerawdwr olaf yn dwyn enw sylfaenydd dinas Rhufain, Romulus, ac enw ymerawdwr cyntaf Rhufain, Augustus. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am fil o flynyddoedd eto fel yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Yr ymerodraeth yn y dwyrain: yr Ymerodraeth Fysantaidd

[golygu | golygu cod]
Yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ei hanterth yn 565.

Bu'r ymerodraeth yn y dwyrain yn fwy llwyddiannus nag ymerodraeth y gorllewin yn y 5g. Nid yw haneswyr yn cytuno pa bryd y dechreuodd yr Ymerodraeth Fysantaidd; "yr ymerodraeth Rufeinig" oedd hi i'w phreswylwyr ar hyd y canrifoedd. Awgryma rhai ei bod wedi dechrau gyda Diocletian yn rhannu'r ymerodraeth yn ddwy ran yn y flwyddyn 284. Gellir dyddio'r Ymerodraeth Fysantaidd o deyrnasiad Cystennin I, yr ymerodr Cristnogol cyntaf, a symudodd y brifddinas i Gaergystennin. Gellir hefyd ei dyddio i deyrnasiad Valens; lladdwyd ef yn ymladd yn erbyn y Gothiaid ym Mrwydr Adrianople yn 378, ac mae'r flwyddyn hon yn un o'r dyddiadau traddodiadol ar gyfer dechrau yr Oesoedd Canol. Arcadius a Theodosius I oedd yr ymerodron olaf i reoli'r cyfan o'r ymerodraeth, gorllewin a dwyrain.

Yn y 6g dechreuodd yr ymerawdwr Justinian I ymgyrch i adennill y tiriogaethau a gollwyd. Penododd y cadfridog Belisarius yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y Fandaliaid yng Ngogledd Affrica rhwng 533 a 534. Ym Mrwydr Ad Decimum (13 Medi 533) gerllaw Carthago, gorchfygodd Gelimer, brenin y Fandaliaid. Enillodd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau 534.

Yn 535 gyrrwyd Belisarius ar ymgyrch i geisio adennill tiriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin. Glaniodd yn yr Eidal, oedd ym meddiant yr Ostrogothiaid a chipiodd ddinas Rhufain yn 536, yna symudodd tua'r gogledd i gipio Mediolanum (Milano heddiw) yna yn 540 Ravenna, prifddinas yr Ostrogothiaid. Dywedir i'r Ostrogothiaid gynnig derbyn Belisarius fel Ymerawdwr y Gorllewin; cymerodd yntau arno dderbyn y cynnig a defnyddio'r cyfle i gymryd brenin yr Ostrogothiaid yn garcharor. Yn ddiweddarach galwyd ef o'r Eidal i wynebu ymgyrch Bersaidd yn Syria (541542).

Dychwelodd Belisarius i'r Eidal yn 544, lle roedd y sefyllfa wedi newid yn fawr, a'r Ostrogothiaid dan eu brenin newydd Totila wedi adfeddiannu gogledd yr Eidal, yn cynnwys Rhufain. Llwyddodd Belisarius i ail-gipio Rhufain am gyfnod, ond roedd yr ymerawdwr yn amau ei deyrngarwch, a galwyd ef yn ?l o'r Eidal, gyda Narses yn cymryd ei le. Llwyddwyd i gadw gafael ar rai o'r tiriogaethau a adenillwyd am ganrif a mwy.

Mae eraill yn dadlau bod yr ymerodraeth Fysantaidd wedi dechrau mor hwyr ag yn oes Heraclius, a wnaeth yr iaith Roeg yn iaith swyddogol yn lle Lladin, ac mae arbenigwyr arian bath yn ei gyfrif o ddiwygiad ariannol Anastasius I yn 498. Dylid cofio, fodd bynnag, mai term a ddefnyddir gan haneswyr diweddar yw "yr Ymerodraeth Fysantaidd", ac mai fel "yr ymerodraeth Rufeinig" y byddai ei thrigolion yn ei hystyried hyd ei diwedd. Er gwaethaf digwyddiadau fel cipio ac anrheithio Caergystennin gan y croesgadwyr yn ystod y Bedwaredd Groesgad yn 1204, llwyddodd yr Ymerodraeth Fysantaidd i barhau hyd 1453, pan gipiwyd Caergystennin gan y Twrciaid Otoman.

Dylanwad

[golygu | golygu cod]

Mae dylanwad yr Ymerodraeth Rufeinig ar lywodraeth, cyfraith, pensaern?aeth a diwylliant gwledydd Ewrop yn enfawr. Mae Ffrainc, Sbaen, Portiwgal a'r Eidal yn ogystal a nifer o wledydd eraill yn siarad ieithoedd sydd wedi datblygu o'r iaith Ladin neu wedi'u dylanwadu'n gryf ganddi. Er mwyn ddangos eu nerth, roedd gwledydd a swyddi yn defnyddio enwau'r cyfnod Rhufeinig hyd yn oed ganrifoedd ar ?l cwymp yr ymerodraeth, er enghraifft yn nheyrnas y Ffranciaid a'r Ymerodraeth Lan Rufeinig, a chan deuluoedd y tsar yn Rwsia ac Ymerawdwr yr Almaen.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Haneswyr Rhufeinig

[golygu | golygu cod]

Gweithiau diweddar

[golygu | golygu cod]
Rhufain hynafol
Teyrnas Rhufain | Gweriniaeth Rhufain | Yr Ymerodraeth Rufeinig | Senedd Rhufain | Conswl Rhufeinig
河豚是什么意思 一落千丈是什么生肖 经常感冒吃什么增强抵抗力 spa什么服务 合肥有什么好吃的
黄牌是什么意思 婚检检查什么项目 phr是什么词性 用盐水洗脸有什么好处和坏处 什么是毛周角化
11月18号是什么星座的 sunglasses什么意思 7月20日什么星座 声音沙哑是什么原因 生源地是什么意思
萎缩性胃炎吃什么好 入职需要准备什么材料 凉面配什么菜好吃 手脚冰凉什么原因 5月12日什么星座
e站是什么hcv9jop5ns5r.cn 脸上长癣是什么原因造成的hcv9jop0ns5r.cn 叶黄素对眼睛有什么好处hcv9jop6ns0r.cn 空腹血糖受损是什么意思hcv8jop3ns0r.cn 胃烧心吃什么食物好dayuxmw.com
什么时间是排卵期hcv9jop5ns3r.cn 手抖是什么情况hcv7jop9ns1r.cn 96年属什么生肖hcv7jop6ns0r.cn 什么时候吃榴莲最好hcv7jop7ns1r.cn 虎头虎脑是什么生肖imcecn.com
美国为什么要打伊朗hcv8jop8ns8r.cn 舌头无苔是什么原因hcv9jop6ns0r.cn 龙头烤是什么鱼hcv7jop6ns1r.cn 35年属什么生肖hcv8jop4ns4r.cn 淡定从容是什么意思0735v.com
查处是什么意思wzqsfys.com 唐僧念的紧箍咒是什么0297y7.com 银联是什么clwhiglsz.com 特斯拉发明了什么hcv8jop2ns4r.cn 头皮痒掉发严重是什么原因hcv8jop2ns3r.cn
百度